Efallai bod yr ŵyl wedi’i hatal am y tro, ond mae ffilmiau gwych yn parhau. Fel cynulleidfa deyrngar o Ŵyl Ffilmiau WOW, gallwch nawr fwynhau tri mis o MUBI – yn cynnwys Bacurau - yn hollol rad ac am ddim.
Mae'r ffilm Western hon o Brasil sy’n wallgof, dyfeisgar, ffraeth a chanddi dro ffuglen wyddonol, yn wahanol i unrhyw beth y byddwch wedi'i gweld. Mae Teresa yn teithio adref ar gyfer angladd ei mam-gu yn Bacurau, pentref ffuglennol yn y sertão (cefn gwlad Gogledd Brasil) sy'n dathlu ei thrigolion hynod.
Ond ar ôl iddi gyrraedd, mae hi'n cael ei syfrdanu gan gyfres o ddigwyddiadau sinistr sy'n awgrymu ymgais systematig i ddileu’r pentref oddi ar y map. Mae cynddaredd gwyllt a thrais eithafol y ffilm yn amlwg yn riff sinematig ar waith cyfarwyddwyr fel Alejandro Jodorowsky a Sergio Leone. Ond does dim dwywaith hefyd taw ymateb ydyw i ethol Jair Bolsonaro, yr arlywydd de eithafol. Yn rhithweledol ac yn wefreiddiol, mae Bacurau yn brofiad hollol unigryw.
“The combination of satire and savagery is pretty fierce and intriguingly unique.” Daily Telegraph
“utterly distinctive film-making, executed with ruthless clarity and force.” Peter Bradshaw, The Guardian
Enillydd Gwobr y Beirniaid Gŵyl Ffilm Cannes 2019