Diweddariad COVID-19 / Coronafeirws:
Rydym wedi penderfynu gohirio dangosiad y Clwb Ffilm Merched o "Made in Bangladesh" (Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, dydd Sadwrn 14 Mawrth) ac "Abercon", ein cynhadledd anime hygyrch (Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, dydd Sadwrn 21 Mawrth).
Mae Clwb Ffilm Merched WOW ac Abercon yn gwasanaethu rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau. Byddai'n anghyfrifol ohonom i roi eu hiechyd ac iechyd eu teuluoedd mewn perygl diangen ar adeg o ansicrwydd mawr.
Mae'n ddrwg gennym achosi unrhyw siom a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r digwyddiadau hyn, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Cyngor Dinas Abertawe, Grŵp Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Merched Abertawe a Mencap Ceredigion.
Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori â'n lleoliadau partner ynghylch a ddylid bwrw ymlaen nawr â gweddill rhaglen Gŵyl Ffilm WOW ai peidio, a byddwn yn postio diweddariadau yma.