We support projects which local staff feel are most useful for them. Over the years we have raised funds to pay for a new water tower to provide a reliable water supply, incinerators and toilet facilities. We visit at least once per year to deliver training in various areas, including paediatrics, ultrasound, critical care and primary care. Blinding eye disease is common in Ethiopia, and we have an undergraduate and postgraduate ophthalmology training link with Hosanna and another unit further south at Hawassa. We have also provided diagnostic and surgical equipment.
In return we ourselves learn from our Ethiopian partners. We have hosted visits by them to Glan Clwyd Hospital where they have given talks and lectures to our staff. Betsi Caldwaladr University Health Board kindly supports our activities, but not financially: funding for all of this comes from a mixture of government grants and private donations to the Link fund. We hold fundraising events every year and enjoy the generous support of hospital staff and their friends and family.
Grŵp o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff eraill ydym ni, sy'n gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Abergele a phractisau meddygon teulu cyfagos yng ngogledd Cymru. Ddeng mlynedd yn ôl, gwnaethom greu cyswllt ag ysbyty partner yn Hossana yn Ne Ethiopia, a bellach mae gennym gyswllt â gwasanaethau Gofal Cychwynnol hefyd (canolfannau iechyd) yn yr ardal. Mae Ysbyty Hossana yn gwasanaethu dros 1 miliwn o bobl wedi'u gwasgaru ar draws ardal eang. Mae nifer fach o feddygon, nyrsys a swyddogion iechyd prysur ac ymroddedig yn gweithio yno.
Rydym yn cefnogi prosiectau sydd fwyaf buddiol, yn nhyb staff lleol. Dros y blynyddoedd, rydym wedi codi arian i brynu tŵr dŵr newydd i gynnig cyflenwad dŵr dibynadwy, llosgyddion a chyfleusterau toiled. Rydym yn ymweld o leiaf unwaith y flwyddyn i roi hyfforddiant mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys paediatreg, uwch sain, gofal critigol a gofal cychwynnol. Mae clefyd dallol y llygaid yn gyffredin yn Ethiopia, ac mae gennym gyswllt hyfforddiant offthalmoleg i israddedigion ac ôl-raddedigion â Hosanna ac uned arall ymhellach i'r de yn Hawassa. Rydym hefyd wedi darparu offer diagnostig a llawfeddygol.
Yn gyfnewid am hynny, rydym ni ein hunain yn dysgu gan ein partneriaid yn Ethiopia. Rydym wedi croesawu ymweliadau ganddynt ag Ysbyty Glan Clwyd lle maent wedi rhoi cyflwyniadau a darlithoedd i'n staff. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cefnogi ein gweithgareddau'n garedig ond heb fod yn ariannol: daw cyllid ar gyfer hyn oll o gymysgeddd o grantiau'r llywodraeth a rhoddion preifat i'r gronfa Gyswllt. Rydym yn cynnal digwyddiadau codi arian bob blwyddyn ac rydym yn mwynhau cefnogaeth hael staff ysbyty a'u ffrindiau a'u teuluoedd."