Ynglyn â WOW
Mae WOW wedi bod yn dathlu cyfoeth sinema’r byd ers 2001, gan ddod â detholiad eclectig, diddorol a chyffrous o ffilmiau o led led y byd i sinemâu yng Nghymru. Mae WOW yn cyflwyno detholiad o’r goreuon o sinema’r byd - ac weithiau ffilm o Gymru hefyd.
Fy newisiadau i yw’r ffilmiau, yn bersonol, yn hynod, ac weithiau’n wrthnysig neu’n anghonfensiynol. Ond gobeithiaf fod pob un ohonynt yn adrodd straeon nerthol sy’n goleuo’n byd a’n ffordd o fyw nawr. Maent yn straeon am y cyfyng-gyngor sy’n wynebu pobl, y dewisiadau maent yn gwneud, a chanlyniadau'r dewisiadau hynny. Gobeithiaf y bydd rhai o’r straeon hyn yn aros yn eich cof am hir gan roi rhywbeth i chi fyfyrio yn ei gylch hyd y daw cynigion y flwyddyn nesaf i’ch difyrru.
O dro i dro byddwn yn trefnu dangosiadau a digwyddiadau y tu allan i gyfnod yr ŵyl. Gobeithiwn y bydd y rhain yn estyn allan i gynulleidfaoedd newydd gan ddod â gwahanol grwpiau o bobl ynghyd mewn amrywiaeth o ffyrdd.
David Gillam
Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm WOW
Lleoliadau:
Aberystwyth Arts Centre
Aberystwyth University
Penglais Campus
Aberystwyth,
Ceredigion, SY23 3DE
01970 62 32 32
www.aberystwythartscentre.co.uk
Taliesin Arts Centre
Swansea University
Singleton Park
Swansea
SA2 8PZ
01792 29 54 91
Theatr Clwyd
Raikes Ln
Mold
CH7 1YA
01352 701521
mwldan.co.uk/about/theatr-mwldan-film-society