Gyda’i hiwmor da arferol, mae’r cyfarwyddwr o Iran, Jafar Panahi, yn cyflwyno golwg craff arall ar groesddywediadau cymdeithas gyfoes Iran.
Stori deimladwy yn llawn delweddau cofiadwy gyda momentau o brydferthwch, cyfaredd a hiwmor sych yn eu britho. Yn byw mewn yurt yng nghanol eangdiroedd rhewedig Siberia, ymddengys mai hen bâr Yakut, Sedna a Nanook yw’r bobl olaf sy’n dal i fyw yn y ffordd draddodiadol.
Portread personol o dair cenhedlaeth o ferched plymio yn Japan, mamau a mam-guod y mae eu cyrff cain yn trawsffurfio yn gyrff helwyr môr o dan y dŵr. Mae ffordd o fyw yr ama-san yn dyddio yn ôl dros 2,000 o flynyddoedd ac mae eu defodau dirgel fel petai yn dod o orffennol pell, breuddwydiol.
Mae Siamaniaeth yn cwrdd â chludo cyffuriau yn nilyniant rhyfeddol Guerra i Embrace of the Serpent a Wind Journeys (WOW 2010), sy’n adrodd stori wir darddiadau’r fasnach cyffuriau yng Ngholombia fel y’i gwelir drwy lygaid teulu Wayuu brodorol.
Yn y ffilm gyffro ddirgel hon, mae Lee Chang-dong (Poetry) yn ehangu ar stori fer Murakami Haruki i greu chwedl seicolegol llwyrfeddiannol, moesol am ieuenctid modern yng Nghorea, cariad clwyfedig, gwrthdaro dosbarth ac eiddigedd gwrywaidd.
Golwg graff, fywiog ar y newidiadau enfawr sy’n digwydd yn Tsieina, wrth i ddatblygiadau amheus, i wneud arian sydyn, ddinistrio cymdogaethau a thorri ar fondiau traddodiadol teuluoedd a chymunedau.
Gyda naws sy’n ein hatgoffa o Apocalypse Now, mae’r ffilm hon yn cyflwyno siwrnai syfrdanol trwy’r Amazon o safbwynt brodorol, gan gipio'r tirweddau anhygoel gydag ymdeimlad o ryfeddod. Y siaman brodorol Karamakate, aelod olaf ei lwyth i oroesi sy’n arwain y ddwy stori blethedig am deithwyr Ewropeaidd yn chwilio am blanhigyn prin sy’n iacháu.
Pêl-droed, ffeministiaeth a chwyldro yw pynciau’r ffilm ddogfen ryfeddol hon, wedi ei saethu dros bum mlynedd yn dilyn y Gwanwyn Arabaidd. Mae tîm pêl-droed Libia wedi ei gyfansoddi o grŵp amrywiol – mae’r capten yn betro-ffisegydd, mae teulu un o'r chwaraewyr wedi ei dadleoli ac mae’r ceidwad gôl yn hyfforddi i fod yn feddyg.
Mae pawb yn y pentref byth a beunydd yn manteisio ar natur ddymunol Lazzaro ac mae ei ddiniweidrwydd breuddwydiol yn taflu golau llym ar arferion y byd.
Mae Hatidze yn ymlafnio i fyny’r bryn ym Macdedonia i weld ei nythiad o wenyn yn y creigiau. Nôl ar ei thyddyn, mae hi'n gofalu am ei chychod gwenyn cartref. Ond pan mae teulu nomadig yn symud i mewn a thorri rheol sylfaenol Honeyland, rhaid i’r ceidwaid gwenyn gwyllt benywaidd olaf yn Ewrop achub ei gwenyn ac adfer cydbwysedd naturiol bywyd.
30 mlynedd ar ôl iddi gael ei rhyddhau gyntaf, mae stori hyfryd Miyazaki am wrach ifanc yr un mor hudol heddiw ag erioed, gan arddangos holl nodweddion clasurol Studio Ghibli.
Ar gyrion Rio de Janeiro, mae Irene yn byw gyda’i gŵr a phedwar mab bywiog mewn tŷ di-drefn sy’n mynd a’i ben iddo ond sy’n llawn cariad a chwerthin.
Yn gynyrfiadol, wedi ei saethu’n hyfryd ac yn wir anghyffredin, dyma i chi gyflwyniad celfydd o gymysgedd rhwng Tarantino, spaghetti Western a chwedl werin Indonesia, gydag aeron gwenwynig, menywod arfog, trais, llofruddiaeth, dial ac ysbrydion di-ben i goroni’r cwbl.
Mae ffantasi, hiwmor a golwg plentyn ar y byd yn cyfuno yn y ffilm hon, yr anime gyntaf i gael premiere yng Ngŵyl Ffilm Cannes. Yn dilyn genedigaeth ei chwaer fach, mae Kun yn darganfod porth hudol ac yn teithio trwy amser i gwrdd â pherthnasau o’r gorffennol a’r dyfodol, gan gynnwys ei chwaer Mirai fel merch yn ei harddegau.
Seiliodd Satyajit Ray, un o gyfarwyddwyr gorau sinema’r byd, y ddrama watwar gymdeithasol arloesol hon am rolau newidiol menywod yng nghymdeithas Indiaidd yn ei ddinas frodorol, brysur, Calcutta.
Wedi ei osod ymhlith cymuned lwythol frodorol Pedra Branca, dyma i chi bortread llawn awyrgylch, gweledol farddol am ddyn ifanc sy’n gwrthod ei dynged fel shaman.
Mae’r ffilm ryfeddol olaf hon gan yr enwog Béla Tarr digyfaddawd yn debyg i gymaint o’i waith, yn hir, yn araf ac yn rhoi boddhad yn y pendraw os allwch ddal ati.
Wedi ei gyflwyno’n gelfydd gan Danis Tanovic, (enillydd Oscar am No Man’s Land) mae’n cydbwyso'r stori wir ysbrydoledig am y chwythwr chwiban wrth wraidd y sgandal llaeth babanod Nestle, gyda’r stori gysylltiedig am sut mae ffilmiau sy’n cwestiynu anghyfrifoldeb corfforaethol yn cael eu tawelu gan fygythiadau cyfreithiol.
Wedi eu rhyddhau gan ddiwedd unbennaeth Pinochet, mae grŵp o deuluoedd yn sefydlu cymuned arunig yng nghysgod yr Andes, lle maen nhw’n gobeithio adeiladu byd newydd i ffwrdd o ormodion bywyd trefol.
Mae’r ffilm ddeallus galonogol hon yn taclo materion bydol taer gyda hiwmor coeglyd a ffraethineb chwareus. Mae Halla, yn annibynnol, yn benderfynol, ac yn ei phedwardegau. Mae’n aelod annatod y côr lleol ond hefyd yn arwain bywyd dwbl fel cudd-weithredwr amgylcheddol.