‘The film that was banned from the Annecy International Animated Film Festival,’ while being a somewhat click-baity headline, is the reason you might have heard of this Chinese independent animated feature film. Have A Nice Day was programmed in competition in the world’s largest celebration of animation in 2017, but was suddenly removed from the festival’s line up just the week before. The festival cited ‘official pressures’ and that the decision was ‘imposed on them,’ by (what was largely reported at the time as) Chinese government officials.
I was attending the 2017 festival and, let me tell you, nothing makes me want to watch a film more than a government not allowing me to! The film was successfully released to a handful of other international animation festivals following the furore at Annecy, however, I didn’t get my chance to see what the fuss was about. Imagine my delight, then, on finding out it was coming to my home city!
Mae début hynod gelfydd y llais benywaidd cryf hwn yn datgelu llawer am Diwnisia gyfoes. Wrth fwynhau ei hun mewn digwyddiad cymdeithasol i fyfyrwyr, mae Mariam yn dal llygad wyneb newydd golygus.
Mae Spirited Away yn cwrdd â Little Mermaid yn yr animeiddiad mawr hwn a fydd yn eich tywys ar don enfawr o hud, dirgel a rhyfeddod. Mae Chun yn byw mewn teyrnas hudol sy’n gartref i amrywiaeth syfrdanol o greaduriaid ffantastig. Pan mae’n teithio i’r byd dynol ar ffurf dolffin, caiff Chun ei hachub gan bysgotwr ifanc pan mae’n mynd i helynt.
Ym mhentref anghyfannedd wedi ei adael yn ddiffaith gan ddiflaniad Môr Arel, mae catastroffi amgylcheddol wedi arwain at chwalfa gymdeithasol. Ymhlith hen longau rhydlyd a anghofiwyd amdanynt, mae bechgyn a dynion yn treulio’u diwrnodau mewn awyrgylch llesg o greulondeb wedi ei fwydo gan alcohol. Caiff Ruslan, crwt yn ei arddegau ei boenydio gan atgofion ei febyd o’i fam a’u tripiau i lan y môr.
Mae gan y pump “stan”, neu weriniaeth Ganolbarth Asia - Kazakhstan, Kyrgyzstan, Tajikistan, Uzbekistan a Turkmenistan - hanes hir a chyfoethog o ganlyniad i’w lleoliad ar hyd y Ffordd Sidan. Gan ffurfio pont rhwng y Gorllewin a’r Dwyrain, mae eu hetifeddiaeth ddiwylliannol yn dod ynghyd â diwylliannau nomadig a sefydlog, ieithoedd Tyrceg â Farsi, ac mae eu gemwaith yn cyfuno cwrelau a gludwyd o’r moroedd ag arian a gloddiwyd o’r mynyddoedd sy’n croesi’r rhanbarth.
Y portread hwn o effaith consgripsiwn ar Jonathon, ei ffrindiau a’i deulu, yn syml, yw’r ffilm fwyaf trawiadol a welsom y llynedd. Gyda chyfuniad cymhellol o realaeth ddidwyll, swrealaeth di-wên a thrasiedi domestig, mae Foxtrot yn eich tywys yn ddwfn i’r natur sy’n newid realaeth y gymdeithas mewn rhyfel.
Mae’r stori anonest hon am dwyll yn berl di-wên sy’n gyfuniad hyfryd o Keaton, Beckett, and Kaurismaki. Wedi ei gosod mewn tref aeafol, ddiffaith sy’n llawn twyllwyr, un ohonynt yn esgus bod yn fynach, ac un arall yn werthwr sebon gyda thric neu ddau yn ei gês, gyda dau blismon di-glem yn gwylio dros y cyfan.
Wedi ei osod ar strydoedd gefn llwm tref ddiolwg yn Tsieina, mae’r animeiddiad hwn i oedolion yn procio caethiwed Tsieina i gyfalafiaeth, mewn modd sy’n eofn ac yn aml yn ddoniol. Mae Xiao Zhan, gyrrwr nwyddau dan orthrwm, yn dwyn bag sy’n cynnwys miliwn yuan fel y gall ei gariad gael llawdriniaeth blastig.
Mae tair cenhedlaeth teulu o grwydrwyr yn byw ym mynyddoedd uchel ac anghysbell Kyrgyzstan yn magu ceffylau. Mae eu bywyd ymddangosiadol ddelfrydol wedi bod yn anodd ers i dad Umsunai ifanc farw.
Yn archwilio cariad a cholled mewn modd huawdl, mae’r triongl cariad hwn sydd wedi ei berfformio’n wych a’i gyfarwyddo’n gryf a chanddo sgript sensitif yn tywynnu golau dadlennol i fyd gwahanedig menywod Iran gyfoes. Ar ôl ugain mlynedd, dychwela Behrouz, cariad cyntaf Mahi i’w tref enedigol, gan ailgynnau eu cariad.
Gydag animeiddiad, mae unrhyw beth yn bosibl – hyd yn oed hud!
Dewch i ddarganfod eich grymoedd mewnol yn y gweithdy hudol dwy awr hwn. Bwriwch swynion a dewch â’ch creaduriaid anhygoel eich hun i fywyd.
Enillwch eich trwydded fel swynwr ac ewch â’ch llyfr fflip eich hun adref gyda chi. Neu gweithiwch gydag eich cyd-wrachod a dewiniaid i ychwanegu lliw cyfareddol at ychydig o hud a lledrith gwyn!
Wedi ei ysbrydoli gan dymor hudol Straeon y Ffordd Sidan Gŵyl Ffilm WOW, bydd y gweithdy’n dilyn ymlaen o ddangosiad arbennig o Mary & The Witch’s Flower, a bydd dangosiad o’r syfrdanol Big Fish & Begonia yn ei ddilyn.
Croeso i bob gwrach a dewin bach 8+ oed a’u teuluoedd.
Arweinir y gweithdy hwn gan yr animeiddwyr proffesiynol Lauren Orme a Chris James, a’i redeg gan Ŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un mewn partneriaeth â Gŵyl Animeiddio Caerdydd.
Darganfyddwch eich grymoedd mewnol
Bwriwch swynion animeiddiedig
Dewch â’ch creaduriaid anhygoel eich hun i fywyd
On Saturday we welcomed Cardiff families to a magical animation workshop facilitated by Lauren, Chris and Dani from Cardiff Animation Festival.
Take a look at some of the work they made, inspired by Studio Ponoc's Mary and the Witch's Flower.
Yn seiliedig ar lyfr plant Mary Stewart The Little Broosmstick, mae’r ffilm hon yn adrodd stori merch fach ifanc, anniddig, sydd wedi syrffedu’n llwyr ac sy’n darganfod blodyn rhyfedd sy’n rhoi grymoedd hudol iddi. Gyda rhagflas Harry Potter, mae’n hedfan ar ysgubell i Goleg Endor hudol, ysgol i wrachod, lle mae anturiaethau peryglus yn aros amdani.
Dyma stori Aboriginaidd glyfar, bwerus a diwylliannol sensitif sydd wedi’i lleoli mewn gwylltir trawiadol wrth i Ewropeaid orfodi eu ffyrdd ar y bobl a oedd yno gyntaf. Mae Fred, Cristion brwd, yn trin Sam a’i wraig Lizzie, yr Aboriginïaid sy’n gweithio iddo, yn gyfartal.
The hippy trail to the East can be dated to 1957, with the publication of Kerouac’s On the Road. In the 1960s and 70s, hundreds of thousands of young people from Europe and North America set off for adventures. Different causes inspired them: some were looking for easily available drugs, others admired Eastern spiritualities, most were seized by an indefinable urge to explore. In this talk, based on interviews with those who did the trail, it will be suggested that even the most secular and worldly resembled pilgrims.
Gyda Kalmykia fodern (yr unig wlad yn Ewrop lle mae Bwdhaeth yn grefydd genedlaethol) yn gefndir i’r ffilm, mewn tref fechan wedi’i gwasgu ar wastatir prin glannau rhewllyd Môr Caspian, cawn stori hunllefus Elza, gwraig fregus i bysgotwr sy’n dyheu am ddianc rhag ei bywyd caled a’i gŵr creulon.
Stori afaelgar a doniol yn aml am greadigrwydd yn wyneb pob anhawster - dyma ddathliad llawen o Salim Shaheen, actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd mwyaf poblogaidd Afghanistan.
Mae’r ffilm ddychan swreal a deifiol o ddoniol yma’n mynd ati’n fedrus i ddatgymalu’r elfennau ymhonnus mewn celf safonol.
Daw’r meistrolgar Kore-eda (Our Little Sister, Still Walking, I Wish) a’i eglurder a manwl gywirdeb cyfarwydd at yr ymchwiliad hynod foddhaus hwn i wiriondeb, cyfiawnder ac os allwn erioed ddeall yn union pam fod pobl yn ymddwyn fel y gwnânt. Mae Misumi’n cyfaddef yn syth i lofruddiaeth waedlyd ei gyn-reolwr.
Yn alltud yn Rhufain, mae Shadi yn dychwelyd adref i anrhydeddu traddodiad canrifoedd oed Nazareth o ddosbarthu gwahoddiadau priodas ei chwaer gyda llaw gyda’i dad Abu.