Heb os nac oni bai'r cyfarwyddwr pwysicaf mewn hanes sinematig Chile, mae Patricio Guzman ymhlith y gwneuthurwyr ffilmiau dogfen gorau yn y byd i gyd. Wedi ei hystyried yn gyffredinol yn un o gyraeddiadau anferthol hanes gwneud ffilmiau dogfen, cipiodd ei ffilm ddogfen epig The Battle of Chile (1973) terfysg chwyldro trychinebus Chile ar ddiwedd llywodraeth Allende a thrawma gwrthryfel Pinochet. Yn y blynyddoedd diweddar mae wedi meistroli modd myfyriol, ysgrifol o wneud ffilmiau ffeithiol fel y gwelwyd yn Nostalgia for the Light a’i phartner The Pearl Button, lle mae’n defnyddio delweddau syfrdanol i archwilio arwyddocâd dŵr fel ffordd o blymio dyfnderoedd hanes a diwylliant Chile. Wedi ei ddisgrifio weithiau fel ateb Chile i Ken Loach, mae gwaith telynegol Guzman yn eich tywys ar siwrnai hyfryd trwy dreftadaeth cenedl sydd hefyd yn datgelu potensial barddonol sinema ffeithiol.
“A country without documentary films is like a family without a photo album” Patricio Guzman
Yn Sbaeneg gyda chyfieithiad Saseneg
Chapter, Dydd Gwener 11 Mawrth, 2yp
Wedi ei fframio a’i ffilmio’n hyfryd, mae’r ffilm fud ddwys hon yn erbyn rhyfel yn dod yn fyw trwy sgôr cysain a chelfydd Guy Bartell. Mae’r Rhyfel Mawr (y Rhyfel Byd Cyntaf) wedi dod â dinistr, torcalon a chaledi i bobl yr Wcráin.
Gyda’i sgript gynnil hyfryd, cast ensemble gwych o actorion proffesiynol ac amatur ac ymagwedd naturiaethol sy’n datgelu holl gymhlethdod y cymeriadau, mae hon yn bortread gafaelgar o India gyfoes.
Ed Talfan yw Cyfarwyddwr Creadigol cwmni cynhyrchu Severn Screen yng Nghaerdydd. Mae Ed hefyd yn gynhyrchydd/ysgrifennwr ar Yr Ymadawiad (The Passing), a hefyd yn gyd-grëwr, cynhyrchydd ac ysgrifennwr ar ddrama gyfres S4C/BBC Y Gwyll/Hinterland.
Yr Ymadawiad (The Passing) yw ffilm début Gareth Bryn. Yn dilyn ei lwyddiant BAFTA Cymru 2006, mae Gareth wedi derbyn 7 enwebiad BAFTA Cymru arall am waith ar 35 Diwrnod (2014), Hinterland (2013-16), Pen Talar (2010), ac Y Pris (2008), a gafodd ei henwebu ar gyfer Prix Europa. Mae Gareth yn artist a golygydd effeithiau gweledol profiadol a dywed “fel cyfarwyddwr, mae rhychwantu’r golygu a’r effeithiau gweledol yn rhyddhaol iawn.”
Bydd y dosbarth meistr yn canolbwyntio ar bum maes:
CASTIO A GWEITHIO GYDAG ACTORION
DATBLYGIAD SGRIPT
BYD FFILM
ADEILADU DILYNIANT
SGÔR AR GYFER Y FFILM
Byddwn yn trafod y ffilm yn ogystal â’i gwaith ar Y Gwyll/Hinterland.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Dydd Iau 10 Mawrth, 6.00yh
Chapter, Dydd Gwener 11 Mawrth, 4.15yp
Dyma’r stori wych, dyner, emosiynol gynnil er nerthol am y cariad annhebygol rhwng Iddewes Hasidig priod a phwdryn cyfoethog.
Mae bywyd yn anodd i Adam, crwt Romani mewnsyllgar yn ei arddegau pan gaiff ei dad ei lofruddio ac mae ei ewythr bygythiol Zigo yn priodi ei fam alarus heb oedi, gan sbarduno stori sy’n dwyn ysbrydoliaeth o Hamlet ac sy’n dargyfeirio mewn ffyrdd cynnil o blot Shakespeare.
Wedi ei gosod yn Ucheldiroedd hynod brydferth Ethiopia mae’r ffilm hyfryd hon yn cyflwyno portread aml-haenog o fywyd pentrefol ymhlith ffermwyr ymgynhaliol. Stori Ephraim ifanc ydyw, sy’n cael ei adael gyda’i ewythr gormesol tra bod ei dad yn chwilio am waith.
Mae gan Mascaro ddawn ddedwydd o greu ffilmiau hudol, llawn awyrgylch o fywydau beunyddiol pobl gyffredin sy’n mentro breuddwydio. Yn gowboi’n gweithio yn y rodeos o gwmpas ffyrdd gwledig Brasil, mae Iremar yn gwybod fod ‘na fwy i fywyd na’i arfer dyddiol o deirw, llwch ac ystumiau macho.
Gyda’i allu rhyfeddol i annog perfformiadau naturiol o’i gast, mae’r ffantastig Kore-da (I Wish, Still Walking) yn creu ymdeimlad o fywyd teuluol sy’n datblygu wrth gyffwrdd yn ysgafn ar faterion emosiynol byddwn oll yn eu hwynebu. Pan mae eu tad yn marw, mae tair chwaer yn gofalu am eu hanner chwaer y maent yn ei chyfarfod am y tro cyntaf yn ei angladd.
Os ydych am ymdrochi’n llwyr mewn diwylliant Tibet yna bydd y ffilm gyfareddol hon yn plesio. Gan godi cyn y wawr i gynnau tân a llwytho’r iaciaid, mae trigolion pentref anghysbell yn y Mynyddoedd Himalaya yn cynllunio eu pererindod i ymweld â safleoedd sanctaidd yn Lhasa.
Stori hoffus am gariad, colled a maddeuant wedi ei gosod yn erbyn cefndir tirlun godidog Gwlad yr Iâ.
Dyma i chi stori sydd wedi ei harsylwi’n gynnil, ac wedi ei gwireddu’n hyfryd am Hana, sy’n dilyn hen draddodiad Albanaidd trwy ddod yn wyryf dan lw er mwyn dianc rhag priodas wedi ei threfnu.
Wedi ei gosod yn erbyn y fforestydd glaw a llethrau garw’r folcanoau ar baradwys ynysol Vanuatu yn y Môr Tawel, dyma i chi stori Romeo a Juliet am sut mae dau gariad ifanc, mewn enw cariad, yn herio eu traddodiad diwylliannol o briodasau sydd wedi eu trefnu.
Wedi ei ffilmio mewn golygfeydd du a gwyn hir, trawiadol, mae’r chwedl gyfarwyddol hon yn archwilio’n gynnil wyneb newidiol Tibet. Gan adael unigedd uchelderau’r Mynyddoedd Himalaya y tu ôl, mae’n rhaid i Tharlo, bugail syml, mynd i’r dref i gael ffotograff adnabod wedi ei dynnu.
Heb fod fel unrhyw beth rydych wedi ei gweld o’r blaen, mae’r plymiad hynod wreiddiol hwn i hanes yn codi cwestiynau diddorol di-ben-draw. Mae dau lofrudd torfol diedifar di-gosb yn ail-lwyfannu eu llofruddiaethau mewn pa bynnag genre sinematig y dymunant, gan gynnwys senarios trosedd Hollywood a sioeau cerdd ysblennydd.
Yn ymhyfrydu yn harddwch folcanoau, mynyddoedd a rhewlifoedd Patagonia, mae’r ffilm ryfeddol hon yn rhoi tipyn i chi gnoi cul yn ei gylch. Yn yr un arddull delynegol a’i ardderchog Nostalgia for The Light, mae Guzman yn myfyrio ar seryddiaeth, dŵr, cof, a llawer mwy.
Mewn tŷ arunig mewn ardal anghysbell crinsych ym Mwlgaria mae mam yn cefnogi ei gŵr a’i mab yn ei arddegau trwy olchi dillad gwely i westai lleol.
Beth os mai wynebu’r argyfwng hinsawdd yw’r cyfle gorau y cawn i adeiladu byd gwell? Wedi seilio ar ei llyfr llwyddiannus, mae Naomi Klein yn dadlau y gallwn defnyddio’r argyfwng mewn hinsawdd er mwyn trawsffurfio ein system economaidd sy’n dinistrio’r amgylchedd i rywbeth llawer gwell.
Gyda’i hymdeimlad cynyddol o arswyd, mae hon yn felodrama oriog, meistrolgar gyda throad angheuol. Pan mae’r pâr ifanc ar ffo, Sara ac Iwan yn gyrru eu car i nant ger ffermdy anghysbell, cânt eu hachub gan Stanley, dyn encilgar.