Gan gael dau ben llinyn ynghyd fel porthor o gwmpas y farchnad ganolog ym mhrif ddinas Paraguay, Ascunsion, mae’r Victor ifanc yn cael y dasg o gludo saith bocs i leoliad nas datgelir.
Mae’r ymchwiliad cyfoethog a hyfryd hwn o’r ffordd mae ffilmiau wedi portreadu plant yn arddangos yn ddigonol nad oes unrhyw ffurf o gelfyddyd wedi ystyried plant yn fwy gofalus na ffilm. Yn ei ffordd ddigyffelyb, frwdfrydig bydd Mark (The Story of Film) Cousins yn tynnu ar dros bumdeg ffilm o bob cwr o’r byd er mwyn dangos y berthynas rhwng ffilm â phlentyndod.
One year in the life of a family of reindeer herders in Finnish Lapland. A study of hard work, hard earned leisure, and an intricate bond between man and nature. Brothers Aarne and Lasse Aatsinki are cowboys of the Arctic. Quiet but good natured, dare-devilish but humble, rugged but gentle, and exceptionally knowledgeable when it comes to their little slice of wilderness. Between their uncanny understanding of the landscape and their reindeer on the one hand, and their heavy reliance on snowmobiles and helicopters on the other, the herders have been categorized as beacons of sustainability and demons of environmentalism – in essence, poster children for simplicity and technology alike. Their story raises weighty questions about what it means to live with the land and invites audience members to reconsider their own assumptions about technology, food production, and, most critically, man’s place in nature.
Siwrnai o ddarganfyddiad i galon cymuned Gujarati Grangetown a fydd yn estyn croeso cynnes i ni yn eu teml ar gyfer profiad cerddorol gorfoleddus heb ei ail.
Wedi ei ffilmio yn y mynyddoedd y tu hwnt i Aberystwyth gyda sawl wyneb cyfarwydd i’w gweld, mae’r ffilm hon yn archwilio'r creithiau seicolegol o fod yn newyddiadurwr rhyfel.
O gyfarwyddwr y nerthol The Past a’r enillydd Oscar A Separation, daw’r portread aml-haenog cymhellol hwn o dair priodas.
Ffilm hyfryd am fenyw ganol oed sy’n benderfynol o fyw ei bywyd i’r eithaf
Yn ddarn gwych o sinema byd cymdeithasol ymwybodol, mae hwn yn troi’n ffilm drosedd afaelgar gyda thro dyfeisgar sy’n herio disgwyliadau.
Yn ddiflas ac yn unig, mae’r Moon Man yn dal reid i’r Ddaear ar gefn comed sy’n pasio ac mae’n dechrau archwilio'r creaduriaid a golygfeydd rhyfeddol y blaned newydd hon.
Dyma i chi ddrama gomedi ddifyr, wedi ei ffilmio mewn dull atmosfferig am Mwas, bachgen o’r wlad sy’n cychwyn allan am Nairobi i fod yn actor.
Yn atgof ysbrydoledig a dyfeisgar o fywyd Sipsi sydd erbyn hyn wedi ei golli am byth, mae’r ffilm hon yn llawn cerddoriaeth, anobaith, a buddugoliaeth un fenyw dros bob dim y mae bywyd yn taflu tuag ati.
Cipolwg hynod ddiddorol i’r trafodaethau tu ôl y llenni a feithrinodd ffydd rhwng y gyfundrefn apartheid a’r gwledydd cyfagos sy’n benderfynol o ddwyn newid i Dde Affrica.
Mae Anne yn ceisio cael trefn ar ei bywyd unwaith eto ar ôl i’r aflonyddwch sifil a ysgubodd drwy Kenya yn dilyn etholiadau 2007 ei gadael yn weddw, ei mab yn yr ysbyty a’i fferm wedi ei ddinistrio.
The cheerful, charming, story of sprightly Allan who disappears from the old people’s home on his 100th birthday and soon has the police and a gang of Nazis on his tail. Through Allan’s picaresque journey we learn the story of his life and his impact on world events. The great pleasure he gets from blowing things up leads via mental hospital, the Spanish Civil War, the Manhattan Project, and the Gulag, to ridiculous encounters with Franco, Stalin, Reagan, and finally to a career as a double agent. A wonderfully entertaining shaggy dog story that neatly balances dark humour and playful storytelling.
Mae ffilm gyntaf Diego Quemada-Diez (cynorthwywr camera Ken Loach) yn dilyn tri chrwt yn eu harddegau o Guatemala ar eu siwrnai beryglus ar draws Mecsico i ddod o hyd i waith yn yr Unol Daleithiau.
Rhamant gomig rhwng dau gymeriad annhebyg nad ydynt byth yn cyfarfod. Mae Ila’n wraig ifanc unig sy’n anfodlon a’i bywyd beunyddiol sy’n cynnwys paratoi cinio i’r gŵr esgeulus sy’n cael ei gludo gan wallahs yr enwog Mumbai Lunchbox sydd pob dydd yn cludo miliwn o brydau tebyg i ddesgiau ar draws y ddinas.
Stori’n llawn sbri am Ahlo, fachgen o Laos, sy’n efell. Credir yn draddodiadol bod gefeilliaid yn dwyn anlwc, felly caiff ei feio am gyfres o anffodion sy’n digwydd i’w deulu.
Mae gan y ffilm gyffro oruwchnaturiol hon adleisiau o The Devil’s Backbone wrth i ffigyrau dirgel o’u gorffennol ddychwelyd i boenydio’r euog.
Gan ddigwydd mewn ‘amser real’ mae’r stori hon am siwrnai gyntaf merch ar ei phen ei hun i fwrlwm gwyllt strydoedd llawn marchnadoedd Tehran yn ffilm afaelgar o gynildeb a symlrwydd eofn. Mae Razieh yn benderfynol o gael pysgodyn aur ‘tew’ ar gyfer y Flwyddyn Newydd ac felly mae’n cymryd 500 toman olaf ei mam.
Yn drawiadol ac yn dyner mae’r ffilm hon yn archwilio’n gynnil y berthynas newidiol rhwng Lilith, merch gwallt golau, llygaid glas o’r Ariannin, a Josef Menegle, y meddyg Natsi sy’n ffoi wrth ei droseddau yn Auschwitz.